Wagon 54/Cymru

From Festipedia, hosted by the FR Heritage Group

Gwagen lechi bren o Chwarel y Rhosydd

Y Chwarel: Safai Chwarel y Rhosydd 1800 troedfedd uwchben y môr ar ochr Gogledd-Ddwyreiniol Y Moelwyn Mawr. Roedd yn agos at, ac erioed yn gysylltiedig â, Chwarel Cwmorthin a fu'n bwydo Rheilffordd Ffestiniog yn Nhanygrisiau. Bu'r chwarelu yn cymryd lle mewn siamberi tanddaearol, a dechreuwyd gynhyrchu yn sylweddol yn 1852. Cyrhaeddai y llechi yr wyneb ar hyd twneli carthffosiaeth hyd nes iddynt ddod at y melinau, lle eu torrwyd i wneud llechi tô o wahanol faint. Yn ystod yr wythnos, arhosai'r dynion mewn gwersyll arbennig ar eu cyfer.

Trafnidiaeth: Ar y cychwyn, defnyddiwyd anifeiliaid i gario defnyddiau nes cyrraedd Aber Dwyryd ac yna, defnyddiwyd Rheilffordd Ffestiniog yn Nhanygrisiau. Ar ôl 1864, aethpwyd â'r llechi ar hyd y dramffordd newydd i Harbwr Porthmadog, ac yn ddiweddarach, ar Reilffordd y Cambrian. Yr unig ffordd allan o'r chwarel oedd i lawr y llethr mwyaf serth yng Ngogledd Cymru. Roedd yn 671troedfedd o uchder, a 1250 troedfedd ar draws. Roedd siâp y dyffryn yn golygu bod y pen yn fwy serth na graddfa 1: 1, ac fel rheol, dim ond un gwagen y gellid ei gostwng ar y tro. Roedd hon yn cydbwyso gyda gwagen wâg yn esgyn.

Line drawing of Wagon 54
Line drawing of Wagon 54

Gwagenni: Yn ystod y 1860au, prynwyd y gwagenni yn barod, ond yn ddiweddarach, adeiladwyd hwy yng ngweithfeydd y Chwarel. Yn 1928 roedd y chwarel yn berchen ar 54 o wagenni, ond erbyn hynny, dim ond 30 oedd yn ddefnyddiol, ac fe ail-adeiladwyd rhai yn Boston Lodge, gweithfeydd Rheilffordd Ffestiniog. Roeddynt yn pwyso tua 12 canpwys,ac yn cario tua 2 dunnell o lechi. Roedd y rhain yn debyg, yn gyffredinol, i wagenni pren traddodiadol Rheilffordd Ffestiniog, yn ol y "gwerthydau" ar y corff, ond mae yna wahaniethau amlwg hefyd. Pam mae na rwym haearn ar draws pen y corff, a pham mae'r bar isa' yn fwy trwchus na'r lleill? Mae'n sicr mai wedi eu hychwanegu i roi mwy o gryfder i'w defnyddio ar yr esgyniad oedd y nodweddion hyn.

Atgyweiriad: Daethpwyd o hyd i weddillion y wagen yma ger y prif esgyniad, lle y cafodd nifer o wagenni eu dinistrio. Dechreuwyd yr atgyweirio yn 1999, o ddim byd mwy na'r gwaith haearn gwreiddiol a phrenau fframwaith newydd. Dim ond y cynllun oedd ar gael fel arweiniad. Does dim ffotograffiau ar gael hyd y gwyddom.

Gwnaethpwyd y berynnau o bren caled newydd, a rhoddwyd y cydrannau at ei gilydd gan ddefnyddio seliant newydd i arbed dirywiad cynnar.

Yr unig wahaniaeth i'r trefniant gwreiddiol oedd fod y sodlau bandiau brêc wedi eu gosod dros bob olwyn. Roedd y cydrannau oedd ar gael yn wahanol eu mesur i'r rheini â ddangosid yn y cynllun, ac yn amhosib eu gosod drwy pen y barau gwadn. Gosodwyd y rhain o dan y barau gwadn ar gromfachau newydd.

Mae adfer ochrau'r corff, gan ddefnyddio'r "gwerthydau" haearn gwreiddiol, yn dilyn y cynllun mor gywir ag sydd bosib, ac mae'r lliw mor agos, hyd y gwyddom, i'r hyn â ddefnyddir gan y Ffestiniog ar ei gwagenni llechi pren. Amcangyfrif yn unig yw'r llythreniad, yn dilyn y ffordd yr oedd gwagenni Dyffryn Croesor yn arddangos enwau eu perchnogion.

Roedd yr olwynion haearn-bwrw gwreiddiol yn rhy wan i'w defnyddio, felly mae olwynion newydd dur wedi eu bwrw, gan ddefnyddio'r hen rai yn batrwm. Mae'r olwynion 5-aden yn anarferol iawn. Mae un pâr o gistiau echelydd wedi eu "whitemetalled" i'r haearn, fel mae'r rhan fwyaf o wagenni llechi'r Ffestiniog, ond mae gan y pâr arall mewn-osodiadau efydd.

Defnydd: Tan fydd amgueddfa wedi cael ei sefydlu, fe fydd y wagen yn aros mewn man diogel. Fe fydd modd gweld y wagen yn rhedeg, o bryd i'w gilydd, ar drên lechi disgyrchiannol Rheilffordd Ffestiniog. Defnyddiwyd trenau llechi disgyrchiannol yn gyson cyn yr Ail Ryfel Byd.

Mae trenau disgyrchiannol yn rhedeg ar achlysuron arbennig i ddangos y ffurf hanesyddol yma o weithio.


(From an original article by Bob Rainbow, who has provided the photos)

(Non Batten/Bob Enfys) Diolchwn i Lewis & Denton am y cynllun o "Rhosydd Slate Quarry" cyh. Adit Publications, Yr Wyddgrug

English Version